Abstract

Mae’r ymchwil hon yn cyflwyno astudiaeth achos o fyfyrdodau a gasglwyd oddi wrth un dosbarth ar sut yr oeddent wedi ail-ddylunio eu hystafell ddosbarth i weddu i anghenion amrywiol yr athro a’r dysgwyr, a sut mae dysgwyr yn parhau i addasu eu man dysgu i weddu i’w hanghenion unigol yn well. Mae canfyddiadau’r papur hwn yn taflu goleuni ar sut mae dysgwyr yn gwerthfawrogi galluogedd a dewis yn eu hystafelloedd dosbarth, rhywbeth y gellir ei gyflawni drwy gynnig arwynebau gwaith a mannau amrywiol iddynt i gwblhau gweithgareddau dysgu. Awgrymodd y dysgwyr fod amgylcheddau dysgu hyblyg yn eu galluogi i ddewis ble a sut i gwblhau eu gwaith, ond hefyd yn eu galluogi i leoli eu hunain mewn amgylcheddau cymdeithasol sy’n addas i’w hanghenion dysgu. Mae’r gwaith hwn yn rhoi cyd-destun a gweledigaeth bellach ar weithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru o fis Medi 2022 ymlaen, yn ogystal â’r diwygiadau ehangach ar lefel system addysg sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Full Text
Published version (Free)

Talk to us

Join us for a 30 min session where you can share your feedback and ask us any queries you have

Schedule a call