Abstract

Mae’r sylfaen dystiolaeth gynyddol gadarn o bob cwr o’r byd yn tynnu sylw at amrywiaeth o ffyrdd y gall plant elwa ar ymgysylltu ag amgylcheddau awyr agored, gan gynnwys cynnydd mewn datblygiad corfforol, gwell iechyd meddwl a lles meddyliol, mwy o gadernid a lefelau uwch o ymgysylltu. Fodd bynnag, gall mynediad plant i amgylcheddau awyr agored gael ei gyfyngu gan ffactorau fel diffyg mannau ‘diogel’ sydd ar gael, pryderon fel ‘perygl dieithriaid’ a ffocws ar weithgareddau allgyrsiol mwy strwythuredig yn ystod oriau ‘y tu allan i’r ysgol’. Awgrymwn felly fod gan ysgolion ran allweddol o ran darparu cyfleoedd i bob plentyn gymryd rhan mewn amgylcheddau awyr agored trwy chwarae a dysgu yn yr awyr agored. Mae’r papur hwn yn bwrw golwg ar y newidiadau allweddol i bolisi a’r cwricwlwm dros y 25 mlynedd diwethaf mewn perthynas â dysgu yn yr awyr agored yng Nghymru. Mae’n nodi bod dysgu proffesiynol yn ffactor allweddol wrth sicrhau bod pob addysgwr ysgol gynradd yn gwerthfawrogi gwerth dysgu yn yr awyr agored. Mae’n amlygu’r angen am gysondeb ar draws lleoliadau ysgolion cynradd fel bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at brofiadau dysgu awyr agored o ansawdd uchel fel rhan o ymarfer addysgeg prif ffrwd. Ar ben hynny, wrth i ni edrych ymlaen at y 25 mlynedd nesaf, mae’n cynnig y dylid sicrhau atebolrwydd drwy fframwaith arolygu Estyn.

Talk to us

Join us for a 30 min session where you can share your feedback and ask us any queries you have

Schedule a call

Disclaimer: All third-party content on this website/platform is and will remain the property of their respective owners and is provided on "as is" basis without any warranties, express or implied. Use of third-party content does not indicate any affiliation, sponsorship with or endorsement by them. Any references to third-party content is to identify the corresponding services and shall be considered fair use under The CopyrightLaw.