Abstract

Mae'r erthygl hon yn olrhain datblygiad rhai o'r enwau a roddwyd ar Ben y Fan yn yr Oesoedd Canol a'r cyfnod modern cynnar. Yn ei Itinerarium Kambriae, cyfeiria Gerallt Gymro at fynydd uchaf Bannau Brycheiniog fel Kaerarthur, gan gynnig hefyd y disgrifiad Lladin cathedra Arthuri. Roedd y cysylltiad hwn rhwng Pen y Fan a'r Brenin Arthur yn un dylanwadol, ac yn y cyfnod modern cynnar gwelir ysgolheigion megis John Leland a Syr Siôn Prys yn pwyso ar dystiolaeth Gerallt i gefnogi eu dadleuon ynghylch hanes cynnar y Brythoniaid a bodolaeth Arthur. Fodd bynnag, parodd geiriau Gerallt – yn benodol, y gyfatebiaeth rhwng caer a cathedra – gryn ddryswch hefyd, ac yn y pen draw mabwysiadwyd Cadair Arthur yn y testun yn lle'r Kaerarthur gwreiddiol. Mae'r erthygl hon yn ystyried tystiolaeth yr Itinerarium Kambriae a strategaethau Gerallt wrth egluro enwau, ac yna'n dadansoddi'r datblygiad o gaer i gadair yn y cyfnod modern cynnar.

Full Text
Published version (Free)

Talk to us

Join us for a 30 min session where you can share your feedback and ask us any queries you have

Schedule a call